Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

UN o’r hanesion tristaf o fyd amaeth i mi ei darllen yn ddiweddar yw hwnnw am golledion ffermwr o Orllewin Sussex. Bu farw dros gant o ddefaid Gordon Wyeth wedi iddynt gael eu cwrso gan gi neu gŵn. Yn wahanol i’r hanesion arferol, nid cael eu llarpio wnaeth y defaid hyn ond yn hytrach cael eu gwasgu yn erbyn ffens a’u mygu. Yn y cae ar y pryd roedd diadell o 600 o ddefaid. Ac er na chafwyd unrhyw dystion, y tebygolrwydd yw i’r defaid ruthro i ddianc a chael eu corlannu mewn un gornel gyfyng. Roedd amryw o’r defaid a laddwyd yn cario ŵyn. Amcangyfrifid fod y golled ariannol yn £17,000. Ar ben hynny costiai £2,000 arall i’r ffermwr, druan, waredu’r cyrff. Mae hyn yn tanlinellu unwaith eto agwedd ddi-hid pobl sy’n cerdded eu cŵn yng nghefn gwlad. Gall agwedd hunanol fel hyn gostio’n ddrud i ffermwyr. Ac nid y golled ariannol yw’r unig un. Cyd-ddigwyddiad oedd, ar yr union ddiwrnod y darllenais yr hanes, imi dderbyn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn y ‘Countryside Alliance’. Ynddo roedd erthygl hynod ddiddorol gan y Sarsiant Matthew Howells o Heddlu Dyfed Powys yn delio â’r union bwnc. Heddlu Dyfed Powys yw’r heddlu gwledig mwyaf yng Nghymru a Lloegr. A dywed y Sarsiant Howells mai cŵn yn rhedeg yn rhydd ar dir amaethyddol yw problem fwyaf cefn gwlad heddiw. I ffermwr sydd wedi buddsoddi amser ac arian mewn magu a meithrin da byw o ansawdd uchel mae dihuno i ganfod un creadur wedi’i larpio’n ddigalondid, meddai. Ond mae canfod nifer wedi eu lladd, eu hanafu, eu rhwygo o ganlyniad i ymosodiad gan gŵn nid yn unig yn ergyd ariannol. Mae digwyddiad o’r fath, meddai, yn debyg o adael ei ôl yn emosiynol hefyd. ‘Gall gwerth y stoc, yr ŵyn mae’r defaid yn eu cario ac ŵyn a erthylir ynghyd a chost biliau’r fet olygu miloedd o bunnau,’ meddai. Ond pwysleisiodd y gellir osgoi’r mwyafrif o ddigwyddiadau fel hyn cyn belled â bod perchnogion cŵn yn cymryd camau cyfrifol i sicrhau fod eu hanifeiliaid yn ddiogel, naill ai yn y cartref neu wrth fynd allan am dro.’ Datgelodd fod Heddlu Dyfed Powys yn derbyn i fyny at ugain o alwadau teliffon y mis oddi wrth berchnogion stoc sydd wedi canfod anifeiliaid wedi eu hanafu neu eu lladd gan gŵn. Yn ddiweddar, meddai, canfuwyd dafad yn farw yng nghornel cae a thair arall wedi boddi mewn nant gyfagos. Roedd y tair yn y nant wedi boddi wrth geisio dianc, mae’n rhaid, meddai. A dyna elfen na wna llawer o berchnogion cŵn ei deall. Gall ci fod yn gwbl gyfeillgar ond yn chwareus. A gall ei chwarae godi braw ar ddefaid a’u gyrru i banig. Ac mae’n bosibl iawn mai dyma beth ddigwyddodd yn achos defaid y ffermwr o Orllewin Sussex. Atgoffwyd ffermwyr gan y Sarsiant Matthews y gall ffermwr gynorthwyo’r heddlu drwy adnabod ci di-dennyn ac ymosodol. Yna, gyda chymorth y ffermwr mi ddaw’r heddlu ag achos yn erbyn perchennog y ci. Cymorth arall bellach yw taflen wybodaeth y gellir ei lawrlwytho o wefan y ‘Countryside Alliance’ sy’n gosod allan y camau y dylid eu cymryd. Dosberthir y daflen hefyd ymhlith trigolion y cefn gwlad mewn ardaloedd lle mae enghreifftiau o gŵn yn ymlid da byw. Yn ogystal â sicrhau bod eu cŵn ar dennyn pan yn eu cerdded ar lwybrau drwy gaeau, dylid hefyd, meddir, sicrhau fod pob ci yn ddiogel yn y cartref fel na all grwydro, hynny’n aml heb i’w berchennog sylweddoli hynny. Ceir mwy a mwy o hanesion y dyddiau hyn am wartheg yn ymosod ar gerddwyr sy’n dilyn llwybrau drwy gaeau gyda’u cŵn. Cyngor y Sarsiant, os fydd buwch yn bygwth, yw i’r cerddwr ollwng y ci. Fe wna’r fuwch, fel arfer, ymlid y ci wedyn a gadael llonydd i’r cerddwr. Yn aml iawn, pobl yn ymddwyn yn ddifeddwl sy’n gyfrifol am adael eu cŵn yn rhydd ar hyd llwybrau cefn gwlad. Ond mae yna eraill sy’n credu fod ganddynt berffaith hawl i adael i’w cŵn grwydro’n rhydd. A chofied pobl fel hynny fod gan ffermwr yr hawl i saethu ci sy’n ymlid stoc.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.