Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

FEDRA’I ddim goddef pobl sy’n ymyrryd yn ddiangen â chwrs natur. Yn yr ardal hon mae’r barcud wedi hen ail-ymsefydlu. Iawn. Rwy’n hoff iawn o’r aderyn ac mae cryn hanner dwsin ohonynt yn hofran uwchlaw’r tŷ yn ddyddiol. Yn wir, mae yna ryw fath o ddealltwriaeth rhyngom. Fe fyddaf yn chwibanu, ac fel ymateb fe wnânt glosio a hofran uwch fy mhen. Ond dydi presenoldeb barcutiaid ddim yn ddigon i rai. Aiff rhai pobl ati i’w bwydo. Nawr does dim angen bwydo’r barcud. Mae e’n aderyn a all edrych ar ôl ei hunan heb drafferth. Mae eu bwydo yn troi aderyn balch ac annibynnol yn ddiog. Yn wir, mae’r barcud mewn mannau yn byw ar wladwriaeth les byd yr adar. Y peth mawr heddiw yw ail-gyflwyno i’r gwyllt greaduriaid sydd wedi hen ddiflannu. Yn eu plith mae eryrod a bleiddiaid. Y diweddar Robin Page, a fu farw’r mis diwethaf wnaeth ofyn yn ddychanol: ‘Pam ddim mynd â’r syniad i’w bendraw? Pam ddim ail-gyflwyno’r hippo? Fe fu hwnnw’n byw ar y tiroedd hyn ganrifoedd mawr yn ôl.’Erbyn hyn mae’r afanc wedi ei ailgyflwyno mewn ardaloedd o’r Alban. Ac yma mae cynlluniau i ddatblygu’r syniad yn ardal Cwm Einion. I Page, roedd ailgyflwyno’r afanc i’r cefn gwlad yn enghraifft arall o geisio ail-greu gorffennol dychmygol. Yn ôl cefnogwyr y syniad mae’r arbrawf yn yr Alban yn gweithio. Mae’r afanc yn bwyta hen goed gan glirio mannau ar gyfer ail-blannu. Mae’r argaeau maen nhw’n eu creu yn cyfoethogi amrywiaeth creaduriaid sy’n dibynnu ar wlypdir. Dim son, wrth gwrs, am ddifetha pysgod a dofednod. Yn y Western Mail yn ddiweddar cafwyd llythyr hynod gall gan ffermwr o Landrindod. Disgrifiodd yr afanc fel ‘arch-lygoden fawr’. Ydyn, meddai, mae’r afancod yn creu argaeau. Ond, meddai, os oedd ef, fel ffermwr yn awyddus i greu llyn, yna fe wna hynny o’i ben a’i bastwn ei hun, ac ar safle o’i ddewis ei hun. Yn ogystal â chnoi drwy fonion coed, fe wnaeth ein hatgoffa fod y creaduriaid gwancus hyn yn cnoi hefyd drwy byst ffens. A beth am y coed a ddifethir? Beth am y slumod a ddigartrefir o ganlyniad i hynny? Beth am noddfeydd i ddyfrgwn a ddifethir? Beth am fannau delfrydol i dyfiant planhigion fel crafanc y dŵr, y bydd pysgod ifanc yn ffynnu arno? Fe ail-gyflwynwyd yr afanc yn Ne Affrica. Y canlyniad? Difethwyd llystyfiant dyffrynnoedd cyfan. Yn Awstria arweiniodd at ledaenu pla, a gychwynnodd ymhlith cimychiaid yr afon, ymhlith rhywogaethau eraill. Yma yng Nghymru fe fydd argaeau’r creaduriaid hyn yn atal eogiaid rhag dychwelyd fyny’r afonydd. Mae yna gynsail i’r fath ofnau. Beth am y wiwer lwyd? Ac, yn wir, gwningod? Ond na. Mae’r cadwraethwyr yn gwybod yn well na ni. Dewch yn ôl â’r afanc. Mae e’n greadur bach pert a fydd yn denu ymwelwyr i’r cefn gwlad. Gwadu mae’r cadwraethwyr y gwna’r creaduriaid hyn ledaenu pla. Yn union fel na wna’r mochyn daear, wrth gwrs. Gwadu wna’n nhw eu bod nhw’n berygl i ddofednod. Yn yr un modd nad yw’r llwynog yn berygl i ddofednod, wrth gwrs. Mae’n ddigon drwg fod creaduriaid cynhenid yn berygl heb fewnfudo creaduriaid sydd yr un mor beryglus, os nad yn fwy felly. Mae’r cyfan yn rhan o’r patrwm ymfudo arall, wrth gwrs, ymfudiad pobl o’r trefi i’r cefn gwlad. A’r rheiny am weld natur yn ei holl ogoniant. Hynny yw, eu syniad nhw o ogoniant. Nid problem i Gymru’n unig ’mo hon. Mae hi’n broblem i’r cefn gwlad ledled gwledydd Prydain. Fe’i hamlygir fwy yng Nghymru oherwydd perygl ieithyddol. Ond yr un yw’r broblem, o ogledd yr Alban i dde Lloegr. Dydw’i ddim yn broffwyd nac yn fab i broffwyd. Ond rhagwelaf y bydd, ymhen deng mlynedd, angen difa afancod am y bydd yna ormod ohonyn nhw’n creu hafoc yn ein hafonydd ac ar eu glannau. Yn y cyfamser rhaid i mi dynnu’r golofn hon i ben. Mae’r hippopotamws y tu allan yn brefu am ei fwyd. Ac mae’r eliffant wedi torri mewn i’r ardd ac yn sathru ar fy mhlanhigion riwbob. Pasiwch y twelf bôr. Nid i saethu’r hippo na’r eliffant. Mae gen i dargedi amgenach mewn golwg!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.