Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

YN ystod y flwyddyn ddiwethaf bûm yn cydweithio ar gyhoeddi cyfrol arbennig iawn. Hanes gwas ffarm a listiodd i frwydro yn y Rhyfel Mawr yw ‘Adref o Uffern’. Y gŵr dan sylw oedd Ellis Williams o Drawsfynydd, hen ewythr i Garffild Lloyd Lewis, un o uwch swyddogion S4C. Garffild wnaeth ofyn i mi roi’r gyfrol wrth ei gilydd. Anafwyd Elis yn ddifrifol ym mrwydr waedlyd Coed Mametz lle collwyd neu anafwyd dros 4,000 o filwyr Cymreig. Anafwyd Ellis yn ddifrifol gan shrapnel. Rhwygwyd ei drwyn a’i wefus uchaf i ffwrdd. Bu ymhlith y dwsin cyntaf i dderbyn triniaeth blastig wynebol. Treuliodd dros ugain mlynedd mewn ysbyty yn Boulogne yn derbyn deunaw o driniaethau llawfeddygol. Pan ddaeth adref ni fedrodd ei dad â’i adnabod. Ie, stori ryfel yw’r gyfrol yn ganolog, yr hanes wedi ei gofnodi gan Ellis ychydig flynyddoedd cyn iddo farw. Ond yr un mor bwysig, mi dybiaf, yw ei ddarlun o fywyd gwas ffarm ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Cychwynnwn gydag Ellis yn wyth oed ond eisoes wedi cychwyn rhoi help llaw ar fferm y Glasfryn gerllaw. Mae ei frawd hŷn, Owen, sydd ond yn ddeg oed yn gweithio fel ‘twyswr’ ar fferm Y Gors yng Nghwm Prysor. Bechgyn ysgol oedd y ‘twyswrs’ a delid ychydig geiniogau am arwain ceffylau’n llusgo gambos neu wagenni adeg y cynhaeaf. Yn fuan caiff Ellis waith adeg gwyliau ar fferm Y Gors hefyd. Mae plentyndod Ellis yn troi o gwmpas hen arferion ffarm fel ‘hel olion’ a ‘chwalu stodiau gwair gwndwn’. O adael yr ysgol cawn Ellis yn cael ei gyflogi yn Fadfilltir lle cawn ef yn arwain y fules ar gyfer troi’r fudai gorddi. Cawn hanes yr hen arfer o gyfnewid llafur ac o gymdogion yn siario ceffylau. Cyflogir Ellis yn ddiweddarach yn y Wern Uchaf. Roedd y ffermwr, Morris Jones hefyd yn ‘graswr’ yn odyn Ellis Morris, Fronolau. Yno, ac yntau’n hel diadell aiff Ellis ar goll yn y niwl. A dyma gofio cyngor ar sut i ganfod ei ffordd adref sef dwrdio’r ci, a hwnnw’n siomi ac yn troi am adref. Ni weithiodd yr ystryw i Ellis. Cawn ef yn nes ymlaen yn Ffair Ganol Y Bala, ffair gyflogi. Daw cymaint â deg ar hugain o ffermwyr ato i gynnig gwaith. Mae’n dewis mynd at John Roberts, Cynythog Ganol yn y Llidiardau. Caiff swllt o ernes yn ei ddwrn fel arwydd o gytundeb. Yn yr un ffair mae ei frawd Willie, a gyflogir yn was yn Nhy-du, Y Parc. Gwaith Ellis yw ‘porthwr’ hynny yw bwydo’r gwartheg. Yno gwêl arferiad dieithr iddo ef sef ‘torri sinke’ neu gloddio ffosydd. Yng Nghynythog Ganol hefyd cawn ddarlun hyfryd ohono’n gwylio Bob Davies yn aredig, hwnnw’n sibrwd yn dawel wrth y ceffylau, ei siarad tawel yn cymell y ddau gel heb angen defnyddio’r awenau o gwbl. Daw Ellis yn ôl i’w gynefin wedyn gan wasanaethu ym Mronasgellog, Bryn Celynnog, Llwyncrwn a Thyddyn Garreg. Yna, heb unrhyw esboniad pam, mae’n listio, hynny ar y 10fed o Fehefin 1915. Yn dilyn ei gyfnod fel milwr cawn Ellis yn dod adref i ardal sydd, fel ef, wedi ei gweddnewid. Caiff hi’n anodd cael gwaith. Mae’n troi at waith rheilffordd. Yn eironig gallasai Ellis fod wedi osgoi’r rhyfel yn llwyr. Roedd un brawd eisoes wedi ymfudo i Batagonia. Yna dyma dri arall o’r deuddeg plentyn yn penderfynu mynd, Ellis yn eu plith. Ond teimla’r tad na all golli’r tri felly mae’n cuddio tocyn Ellis. Mae’r gyfrol hon yn drysor. Tua’r diwedd cawn lythyron rhwng y tad a’r meibion alltud, y llythyron yn llawn cyfeiriadau at y dirywiad yn y bywyd lleol gwledig yn y Traws. Fel y nodais yn y broliant mae hon yn stori anghyffredin am ddyn cyffredin a fu i uffern ac yn ôl. Dychwelodd yn ddyn gwahanol mewn mwy nag un ystyr. A ninnau wrthi’n coffau Brwydr y Somme a Brwydr Coed Mametz mae’r gyfrol hon yn agoriad llygad. Y teimlad a gaiff rhywun o’i darllen yw gymaint fu’r newid yn ardal y Traws a ledled y byd o fewn canrif. Geiriau agoriadol Ellis yn ei gofnod wrth ddisgrifio’i blentyndod yn y Traws yw: ‘Dyma y llecyn brafia a chynhesaf yn y fro, cysgod ar wynt oer y gorllewin. Ac ni wyddech ddim am dywydd a stormydd ond sŵn y gwynt yng nghoed y Glasfryn.’ Sŵn gwahanol glywodd Ellis wedyn mewn coed tra gwahanol. Ond daeth adref o uffern i ddweud ei stori.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.