Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

ERTHYgL gan Chris Kelsey yn y Western Mail sydd ar fai am ddihuno atgofion lu, atgofion a aeth â mi’n ôl dros drigain mlynedd. Crwt ysgol oeddwn i pan benderfynodd fy mrawd hynaf, Dan ymgymryd â rownd laeth yma yn y Bont ganol y pumdegau. Bob penwythnos am rai blynyddoedd wedyn fy ngorchwyl fyddai helpu Dan ar y rownd. gyrru byddai ef. Fi fyddai’n gwneud y cerdded. Yr erthygl a ddeffrodd fy atgofion oedd un am gwmni Llaethdy Llŷn sydd wedi adfer nid yn unig y rownd laeth ond hefyd y defnydd o boteli. Ydych chi’n eu cofio nhw? Poteli hanner peint, peint a chwart yn clincan yn erbyn ei gilydd. Pan ddechreuodd Dan yn y busnes, capiau cardbord oedd i’r poteli, capiau bach crwn gyda chylch llai yn y canol y medrech ei wasgu drwyddo i greu twll. Yn fuan disodlwyd y capiau cardbord gan gapiau ffoil. gosodid y rhain ar dop y poteli â’u gwasgu i’w lle gan ryw ddyfais fach syml. I gychwyn derbyniai Dan ei gyflenwad llaeth oddi wrth ddyn llaeth Tregaron, Trefor. Wedyn cofiaf y llaeth yn cyrraedd mewn tshyrns. Addaswyd y gegin fach yn Heulfryn fel llaethdy ac yno y byddai Dan a minnau ac un neu ddwy o’m chwiorydd yn llenwi’r poteli a’u gosod mewn cratiau. Yna byddai Dan yn gosod y cratiau llaeth yng nghefn ei hen fen Bradford, â’i hinjan yn popian fel motor-beic. Ar ddiwedd y rownd nid dyna ddiwedd y gwaith. Byddai angen golchi’r poteli gwag a gyfnewidid am y rhai llawn. golygai’r rownd laeth y gwnawn golli fy moreau Sadwrn a Sul, cychwyn ar ôl brecwast cynnar a gorffen erbyn cinio hwyr. Tipyn o aberth i un a edrychai ymlaen fel arfer i fynd allan i chwarae gyda ffrindiau ar benwythnosau. Heddiw mae dynion a menywod llaeth yn frîd sydd bron iawn wedi diflannu’n llwyr. Bydd y mwyafrif mawr o gartrefi heddiw yn prynu eu llaeth o’r siop neu’r archfarchnad. Yma rydym yn ffodus iawn fod Huw Morgan o Dregaron yn galw ar ei rownd yn rheolaidd. Ef hefyd sy’n cyflenwi’r unig siop leol yn y pentref. O Abertawe y daw cyflenwad Huw. Ond deallaf fod y mwyafrif mawr o gyflenwadau llaeth o gymru’n cael eu danfon i’r Cotswolds i’w trin cyn eu danfon yma’n ôl. Mae cychwyniad menter Llaethdy Llŷn yn ddigwyddiad arwyddocaol gan iddo gyd-fynd â dyddiau argyfyngus yn hanes ffermwyr llaeth. Mae Siôn a Nia Jones o Fadryn Isa ym Moduan yn gwerthu llaeth buches eu hunain. Ac er na ddefnyddir poteli gwydr mae’r poteli plastig, sy’n cario enw’r cwmni, yn deffro atgofion o’r poteli gwydr oedd yn dwyn enwau pob math ar gwmnïau. Cam arall yn ôl i’r gorffennol yw’r ffaith fod y cwmni’n darparu ar gyfer cwsmeriaid sydd am gael hufen ar dop y botel. Mae yna resymeg y tu ôl i fenter Llaethdy Llŷn. Yn llawer rhy hir bu ffermydd llaeth yn gorfod anfon eu cynnyrch i bellteroedd daear i’w ddosbarthu a’i werthu. Mae Llaethdy Llŷn yn gwerthu ei gynnyrch i gwsmeriaid lleol. Mae hyn yn rhoi ystyr go iawn i ddarparu llaeth ar garreg y drws. Mae Siôn a Nia yn cadw buches o 80 o wartheg Holstein-Friesian. Yn eu menter cânt gymorth eu plant Ela, Tomos ac Anna, oll yn eu harddegau. Cafwyd cefnogaeth Cywain, cynllun o dan adain Menter a Busnes a fu’n eu cynghori ar ddulliau o farchnata, labelu, hylendid a chysylltiadau cyhoeddus. Mae gan y cwmni ganolfan prosesu ar rent ym Mhwllheli lle cyflogir dau berson. Mae Hufenfa De Arfon eisoes yn derbyn rhan o’r cynnyrch. Unwaith y bydd y cynnyrch wedi cyrraedd ei botensial llawn disgwylir y gellir prosesu fyny at 10,000 peint yr wythnos. A dyma’i chi eiriau call gan Nia Môn, sy’n arwain y fenter drwy Cywain, ‘Rwy’n gresynu wrth feddwl fod pobl Pen Llŷn yn eistedd lawr i’w brecwast grawnfwyd bob bore gan arllwys arno laeth a deithiodd hyd a lled ffyrdd Lloegr gan groesi Clawdd Offa cyn cyrraedd yma. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw reswm gan fod ffermwyr llaeth Cymru’n llafurio’n ddyddiol er mwyn cynhyrchu llaeth ffres o ansawdd uchel.’ Amen, medde finnau. Cofiwch, dydw’i ddim yn hiraethu am y cerdded o gwmpas y tai, hynny haf a gaeaf, dan haul ac mewn glaw, rhew ac eira. Ond rwyf yn hiraethu am yr hyn oedd yn rhan o gymdogaeth dda’r pumdegau. Diolch i Laethdy Llŷn am geisio dod yn ôl a rhai o’r dyddiau da.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.