Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

DRO’N ôl fe wnes i gyfeirio at y ffaith fod awdl fawr Dic Jones, ‘Y Cynhaeaf’ yn hanner cant oed eleni. Yr hyn na wnes i ei grybwyll oedd bod yna ddeugain mlynedd wedi mynd heibio ers i Dic gyfansoddi ei awdl ‘Gwanwyn’ ar gyfer Prifwyl Aberteifi 1976. Do, Cadeiriwyd y naill ond gwrthodwyd y llall. Ond mae’r ddwy fel dwy ochr yr un geiniog, awdlau amaethyddol eu cefndir gan fardd o ffermwr a ffermwr o fardd. A chan i mi drafod y naill eisoes yn y golofn hon mae’n werth talu sylw i’r llall. Cred aml i feirniad barddol mae ‘Y Cynhaeaf’ yw’r awdl fwyaf i’w chadeirio erioed. Ac er nad ydw i’n feirniad barddol, cytunaf yn llwyr. Ond awdl anfuddugol ‘Gwanwyn’ yw’r awdl fwyaf a gyfansoddwyd erioed. Yn wir, mae hi’n fwy nag awdl. Mae hi’n salm o foliant i dymor yr ail‐eni. Ceir ynddi linellau a wnânt i wallt eich pen sythu. Ac er fy mod i’n foel ers blynyddoedd, fe wn beth yw’r profiad. Dim ond bardd â chanddo brofiad helaeth o ffermio allai fod wedi cyfansoddi ‘Gwanwyn’, fel yn achos ‘Y Cynhaeaf’ ddegawd yn gynharach. Ffermwr oedd Dic, a ffermwyr oedd ei feistri barddol, sef Bois y Cilie. Yn wir, marwolaeth Alun y Cilie wnaeth sbarduno’r awdl yn y lle cyntaf. Alun oedd arwr Dic. Torrodd Dic lythyren un o’r rheolau ond nid, mi gredaf, ysbryd y rheol. Ond stori arall yw honno. Mae’r awdl yn cychwyn yn orfoleddus wrth gyfeirio mewn hir a thoddaid llesmeiriol at yr arwyddion fod y gwanwyn yn y tir. Daw’r golomen o hyd i ddeilen. Cyrcha’r wennol yr heulwen. Caiff Seren y fuwch ei throi allan i bori. Ac oddi ar frigyn ucha’r gangen clywn ffliwt yr aderyn du. Diddorol nodi, yn yr ail hir a thoddaid, wahoddiad y bardd i ‘awel Erin’ chwythu draw i’r ‘tir dolurus’. I ni yma yn y gorllewin, o Iwerddon y daw’r tywydd. Ac i mi mae’r ‘tir dolurus’ yn medru cyfateb i Erin hefyd drwy chwedl Branwen. Ceir ysbryd y gwanwyn yn gyffro ac yn gryndod. Meddyliwch, yn dilyn y ‘newid ym min ei awel’, y bustych disgwylgar sy’n ymwybodol fod yna newid ar droed. Fe gwyd y bustych eu pennau’n uchel A phrancio o ffroeni y cyffro anwel. Arferai Eirwyn Pontshân ddweud mai pethe bach sy’n gwneud perffeithrwydd ond nad peth bach oedd perffeithrwydd. Mae hynny’n arbennig o wir am yr awdl hon. Myrdd o bethe bach yn creu cyfanwaith godidog. Dyna’i chi’r disgrifiad o eni oen, ond hwnnw’n cael ei ladd gan frain ddim ond i’r ffermwr wisgo croen yr oen marw am oen byw, a hwnnw’n cael ei fabwysiadu gan fam arall. Deuwn at nodyn crefyddol gyda chlychau’r Pasg yn nofio ar yr awel gyda ‘dwys nodau hen hyder’ yn ‘Hollti’r bolltau o hir bellter.’ Clywn ‘anthemau o leisiau plant’ a ‘hosanna’u perseinedd/ Am edfryd bywyd o’r bedd.’ Yna’r clo bendigedig. Ie, bendigedig, gair a gamddefnyddir byth a hefyd.

Tra bo cyw i’r ddeuryw’n ail‐ddeori
Ni bydd i ffydd gael ei ddiffoddi;
Bydd gŵr diorffwys yn torri cwysi
Ac yn y gleien bydd og yn gloywi,
Bydd gwanwyn a bydd geni’n dragywydd,
A’r glaw o’r mynydd yn treiglo’r meini.
Cofiaf unwaith holi Dic am arwyddocâd y llinell olaf. Ai adleisio
ydoedd yr Atgyfodiad, a threigliad y maen oddi ar y bedd?
Gwenodd Dic rhyw wên fach foddhaus.
Tynnodd ar ei bib. Gwenodd. Gosododd ei law ar fy ysgwydd ac meddai,
‘Mae hi gen ti, boi. Ydi, mae hi gen ti.’
Yn sicr roedd hi gan Dic.

Mae’r gwanwyno blynyddol yn wyrth. Ac yn awdl fawr Dic yr Hendre cawsom wyrth arall. Ie, dyma’r awdl fwyaf a gyfansoddwyd erioed. Ar hyn o bryd mae’r gwanwyn yn ymddangos yn bell. Ond fe ddaw. O, daw!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.