Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

ERBYN hyn fe wyddoch mai fy mhrif destun brygowthan yw’r modd y mae bywyd cymdeithasol pentrefi cefn gwlad yn diflannu o flaen ein llygaid. Rwy’n ofni fy mod i’n mynd i ganu’r un dôn gron unwaith eto. Ond nid fi sy’n cwyno’r tro hwn ond yn hytrach newyddiadurwr parchus sydd â’i enw’n gyfarwydd i ddarllenwyr ledled gwledydd Prydain. Enw’r newyddiadurwr yw Brian Viner, a symudodd o Lundain i bentref bach gwledig 15eg mlynedd yn ôl. Heddiw mae bywyd cymdeithasol y pentref hwnnw wedi peidio â bod. Ar bwy mae Viner yn gosod y bai am dranc y pentref? Arno ef ei hun a’i debyg. Pan symudodd Viner a’i deulu yno roedd y pentref yn fwrlwm, meddai. Ceid yno bob adnodd a gwasanaeth posibl. Heddiw mae hi’n stori wahanol. Dyma’i chi rai o’r newidiadau a welodd Viner yn ystod y cyfnod y bu’n byw yno. Arferai’r dyn llaeth alw’n ddyddiol, gan gyflenwi papurau newydd hefyd. Dim ond ar dri diwrnod yr wythnos y mae’n galw nawr. Mae’r siop wedi cau. Dim swyddfa bost. Mae’r dafarn wedi cau. Diflannodd y tîm criced. Ni chynhelir y ffair ddiolchgarwch bellach, na’r ffair haf. Mae’r bobl ifanc, yn cynnwys tri phlentyn Viner a’i wraig wedi gadael naill ai i goleg neu i chwilio am waith. Mae Viner yn llym ei feirniadaeth o rai o’i gyd‐fewnfudwyr. Ysgrifennodd un fenyw at y Cyngor Cymuned yn galw am wahardd tractors a thrêlyrs am eu bod nhw’n difrodi wyneb y ffordd. Gwrthododd un arall yn ei BMW crand i facio’n ôl i ganiatáu i dractor basio. Gorfodwyd i’r ffermwr ei gwthio hi a’i char o’r ffordd. Mae Viner yn ddigon gonest i’w feio’i hun a’i debyg am y dirywiad ym mywyd ei bentref mabwysiedig. Ond mae ganddo darged arall hefyd, un y bum innau’n rhefru yn ei erbyn sef y rhaglenni neis, neis sy’n cymell y townis i’r cefn gwlad. Petai chi’n llyncu broliant y rhaglenni hyn gallasech feddwl fod y cefn gwlad yn gyfuniad o Ardd Eden a’r Nefoedd. Dyma’i chi ddyfyniad ganddo sy’n mynd â ni i graidd y broblem, ‘O gael eu hudo gan raglenni teledu fel ‘Escape to the Country’ BBC 2 mae’r townis yn tyrru i’r cefn gwlad yn eu niferoedd, yn prynu eu siacedi cwyr a’u welis gwyrdd, yn hyfforddi ei labradors i ymlid defaid ond yn llawer rhy aml heb fynd i’r drafferth i gefnogi’r ysgol leol, yr eglwys, y siopau na hyd yn oed y tafarndai.’ A dyma’i chi ergyd arall sy’n taro’r targed yn berffaith. Yr unig fudiadau sy’n ffynnu, meddai, yw cyfarfodydd hanes lleol lle mae trigolion hynafol yn annerch gan greu darlun o’r pentref fel yr arferai fod flynyddoedd yn gynharach. ‘Does gan y bobl a fu byw yma gydol eu bywyd fawr ddim i’w ddweud wrth hanes lleol. Ond maent yn ymwybodol y gwna’u pentref, heb ysgol weithredol, heb eglwys a heb dafarn droi i fod yn ddim byd mwy nag amgueddfa.’ Yn ôl Cadeirydd y Cyngor Cymuned mae’r mewnfudwyr yn rhuthro i’r cefn gwlad er mwyn ffoi rhag y ras llygod mawr. Yn anffodus, meddai, maen nhw’n dod â’r ras llygod mawr yma gyda nhw. Byddant yn dal i gomiwtio i’r ddinas ac yn mynnu cael popeth y gofynnant amdanynt heb unrhyw oedi. Maen nhw’n tyrru yma ond yn gwrthod cydymffurfio â’n ffordd ni o fyw. Dydyn nhw ddim yn hoff o hela na saethu a’r hyn a geir felly yw sefyllfa o “ni a nhw”. Mae hynny’n tanseilio’r gymuned gan fod y bobl a fu’n gyfrifol am gynnal y gymuned honno’n marw. Maen nhw’n dal yma, ond y mwyafrif ohonyn nhw yn y fynwent.’ Pwysleisia Viner nad y demograffig cyfnewidiol yn unig sydd ar fai. Dylai llywodraethau a chynghorau ledled y wlad ysgwyddo’r bai hefyd, meddai, am eu difrawder. Dywed Viner fod 600 o dafarndai gwledig yn cau ledled y wlad bob blwyddyn. Mae yna dros 2,000 o ysgolion sydd â llai na 100 o ddisgyblion. Hynny yw, gwaethygu wna’r sefyllfa. Dylwn nodi yma nad son am bentref yng Nghymru a wna Viner. Na, y pentref dan sylw yw Docklow yn Swydd Henffordd. Ond, meddai Viner, nid hanes un pentref yw hwn ond hanes pentrefi dirifedi ledled Lloegr. Gallai Viner fod wedi cynnwys y Deyrnas Gyfunol yn gyfan. Yng Nghymru mae’r i’r broblem ddimensiwn ychwanegol sef yr iaith. Ond yn y bôn, yr un broblem ydi hi ymhobman.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.