Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

AM gyfnod pan oeddwn i’n yr ysgol uwchradd bûm yn helpu fy mrawd Dan i redeg siop yn y pentref. Siop cigydd oedd hi, ond siop a werthai hefyd nwyddau cyffredinol. Câi ei hadnabod gan bawb fel Siop Ifan Hughes. Ifan oedd y cigydd oedd yno o flaen Dan. Roedd ganddo ei ladd‐dy ei hun a dim ond gwerthu cynnyrch lleol a wnâi. Roedd Siop Ifan Hughes, a ddaeth i gael ei hadnabod yn raddol fel Siop Dan, yn un o wyth o siopau yn y pentref nôl ganol y pumdegau. Heddiw does ond un sef Siop y Bont, sydd yn yr union adeilad a fu’n Siop Ifan ac wedyn yn Siop Dan. Yn nyddiau Dan doedd rheolau glanweithdra bron iawn ddim yn bod, heb son am reolau iechyd a diogelwch. Doedd dim byd yn rhyfedd mewn gweld Dan yn torri cig ar y bloc tra sigarét yn hongian rhwng ei wefusau â hanner modfedd o lwch ar ei blaen. Does gen i ddim cof gweld basin golchi dwylo yno. Beth bynnag, at hyn ydw i’n dod. Byddai’n well gen i ymddiried yn y cynnyrch a werthid yno bryd hynny nag yn y sothach cig a werthir heddiw mewn ambell archfarchnad. Heddiw mae cownteri rhai o’r archfarchnadoedd yn rhemp o gig wedi ei ail‐gyfansoddi. Anodd dychmygu heddiw beth sy’n gynwysedig mewn darnau o gig a werthir yn rhai o’r archfarchnadoedd hyn. Yn wir dydi rhai o’r darnau cig a werthir yn ddim byd mwy na briwgig o bob math wedi ei ail‐gyfuno gyda chymorth glud. Ymhlith triciau rhai o’r masnachwyr hyn mae gwerthu’r hyn a elwir yn llysnafedd pinc, y cyfan wedi ei greu o ddarnau gwastraff ond wedi mynd trwy broses o ail‐ffurfio gyda chymorth glud. Mae un cwmni sydd â chadwyn enfawr o dai bwyta yn gwerthu’r hyn a ddisgrifir fel asenau yn cynnwys ymron 75 o wahanol gynhwysion, un ohonynt yn gemegyn a ddefnyddir mewn gwadnau sgidiau ysgafn. Un cynhwysyn yw ractopamine, sy’n cwtogi ar floneg mewn cig. Mae’n berygl i iechyd ac mae Rwsia wedi gwahardd cig o America sy’n cynnwys hyn. Newydd da felly yw bob mwy a mwy ohonom heddiw yn ymddiried mewn cynnyrch cigyddion lleol. Dros y Nadolig canfuwyd cynnydd sylweddol ymhlith cwsmeriaid siopau lleol. Un o lwyddiannau mawr yr ŵyl fu gwerthiant twrcis buarth a golwython rhostio a hamiau creaduriaid rhydd. O’r diwedd ymddengys fod cwsmeriaid yn gweld gwerth mewn prynu cigoedd o ansawdd da ac o ffynonellau dibynadwy. Hynny yw, mae mwy a mwy ohonom ddim yn unig am brynu cig iach ond hefyd am wybod o ble mae’r cig yn dod. Y newydd gwael yw bod mwy a mwy hefyd wedi troi at brynu dros y we. Wn i ddim a ydw i’n codi bwganod, ond rhyw dybio ydw i ei bod hi’n haws cuddio manylion am ffynhonnell cynnyrch dros y we nad y mae pan fyddwch yn medru gweld y cynnyrch ar gownter o flaen eich llygaid. Gwelwyd ymron ddau y cant yn llai o wariant dros fis Rhagfyr nag yn ystod y mis cynt. Un esboniad a gynigir dros hyn yw bod y Dydd Gwener Gwallgof wedi disgyn ar ddiwedd mis Tachwedd. Ond y newyddion da yw bod siopau bach wedi gweld cynnydd o 17.4 y cant yn eu gwerthiant Nadoligaidd. Ac ymhlithy llwyddiannau mawr roedd gwerthiant cig. A bu’r cynnydd mwyaf ymhlith busnesau bach lleol. O’m rhan i, wnâi fyth brynu cig heb wybod o ble mae e’n dod. Bob pnawn dydd Mercher bydd cigydd o Aberystwyth yn galw ar ei rownd. Nid yn unig ydw’i wedi delio gydag ef am dros ddeugain mlynedd, mae e hefyd yn gyfaill personol. Ydi, mae’n bwysig gwybod o ble daw’r bwydydd a brynwn. Sy’n fy atgoffa o stori wir am werthwr pysgod a âi o gwmpas y pentrefi’n gwerthu Mecryll Cei Newydd. Dyma wraig yn ei holi a oedd e’n siŵr mai o’r Cei Newydd y deuent i gyd? ‘Ie,’ atebodd, ‘ond cofiwch, efallai bod un neu ddau yn dod o’r Cei Bach!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.