Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

CAIFF y miloedd o erwau o dir rhwng Tregaron a Llanymddyfri ei adnabod, o’i gyfieithu o’r Saesneg, fel ‘Y Diffeithwch Gwyrdd’. Mae’n enw sy’n gwrthddweud ei hun. ‘Desert’ yw diffeithwch. Sut fedrwch chi felly gael diffeithwch sy’n wyrdd? Ond dyna fe, dyma enghraifft arall o greu enwau Saesneg ar gyfer m a n g r e o e d d Cymreig. Mynydd Tregaron yw’r enw y byddaf i’n ei ddefnyddio. Ac yn goron ar y fangre i mi mae capel bach Soar y Mynydd. Dros y trigain mlynedd diwethaf newidiodd Mynydd Tregaron yn ddirfawr. I lawer ohonom ni blant y pedwardegau, y tymor cneifio fyddai pinacl y flwyddyn, pan gaem ein cludo yn lori werdd Toss Hughes i’r cneifio yn Nhywi Fechan neu Nantstalwyn, Nantllwyd neu Nant‐yr‐hwch, Dolgoch neu Nantymaen a mwy. Byddai’n ras rhyngom i weld pwy gâi ei ddewis i rannu llinynnau neu fod yn ddoctor. Defnyddid y llinynnau ar gyfer clymu coesau’r defaid. Gorchwyl y doctor fyddai tendio dafad neu oen a anafwyd gan y gwellaif, trwy daenu tar dros y clwyf. Daeth y newid mawr yn gymharol sydyn. Y catalydd oedd lluwchfeydd eira 1947, a ynysodd y ffermydd mynydd am wythnosau, yn wir am fisoedd. Bu cymaint o golledion ymhlith y defaid fel i nifer roi’r ffidil yn y to. Gwelodd y Comisiwn Coedwigaeth ei gyfle a daliwyd aml i ffermwr defaid ar awr wan. O ganlyniad mae Mynydd Tregaron erbyn hyn yn ddiffeithwch gwyrdd, y gwyrddni gan fwyaf yn goed. Mae’r hanes yn gryno yng nghyfrol Hugh Jones, o Ddolgoch gynt, ‘Bugail Ola’r Cwm’, cyfrol y bûm yn gysylltiedig â hi. Eleni byddaf yn cofio’n aml am Fynydd Tregaron, nid ar gyfrif nostalgia ond am fod yna dri chanmlwyddiant pwysig sy’n gysylltiedig â’r mynydd. Ie, tri chanmlwyddiant geni’r Pêr Ganiedydd, William Williams Pantycelyn. Croesai Williams Fynydd Tregaron yn rheolaidd ar gefn ei geffyl,yn efengylu ac yn gwerthu te. A bob tro yr ymwelaf â’r mynydd, dychmygaf ei weld yn gyrru ‘dros y bryniau pell’. Ydynt, mae emynau Pantycelyn yn enghreifftiau byw o ddisgrifiadau mynyddig. Tybir mai wrth edrych lawr o gefn ei geffyl i’r dyfnderoedd lle mae Llyn Brianne heddiw y symbylwyd ef i gyfansoddi ‘Cul yw’r llwybr i mi gerdded, Is fy llaw mae dyfnder mawr’. Yn un o’i emynau mwyaf, ‘O, tyred Iôr tragwyddol’ mae’n cyfeirio at Dduw yn tywys y saint. ‘Eu harwain dros fynyddoedd’. Cawn gyfeiriadau at y tywydd garw a all fwrw’r ardal, ‘Fel y rhed llifogydd mawrion, Fel y chwyth yr awel gref’. Yn ei emyn mwyaf, ‘Mi dafla ‘maich’, cyfeiria at ‘euogrwydd fel mynyddoedd byd’. Mae’r cyfeiriadau mynyddig yn ddiddiwedd. Bob tro y meddyliaf am Williams, yr un fydd y darlun. Ei weld yn teithio ar ei geffyl, ‘Bererin pererinion’ chwedl R Williams Parry, heibio i’r fan lle codwyd Soar y Mynydd flynyddoedd yn ddiweddarach, cyn disgyn yn araf i lawr gwlad. Do, wrth iddo edrych dros y bryniau pell gwelodd Williams y Nefoedd. Felly peidiwch â galw Mynydd Tregaron yn Ddiffeithwch Gwyrdd. Dydy diffeithwch ddim yn meithrin twf. Fe gododd tir mawnog Mynydd Tregaron gewri. A bu ei groesi’n ysbrydoliaeth i fardd crefyddol mwyaf Ewrop, William Williams Pantycelyn. Ond beth a welai heddiw wrth edrych dros y bryniau pell? Y mynydd wedi ildio i’r coed. Ie, ‘coed lle bu cymdogaeth’, chwedl Gwenallt. Denodd y rheiny fwy o lwynogod, mwy o gerddwyr. Heddiw dyma diriogaeth y boda a’r barcud. Dyma fan chwarae fandaliaid y cerbydau gyriant pedair olwyn sy’n anrheithio’r fawnog. Hwyrach fod ‘Y Diffeithwch Gwyrdd’ yn enw cymwys ar Fynydd Tregaron wedi’r cyfan, sef ‘anial chwith’ Pantycelyn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.