Y Byd o Ben y Bannau

AR hyn o bryd rwyf wrthi’n cyfieithu i’r Saesneg hunangofiant Charles Arch, ‘Byw Dan y Bwa’ a gyhoeddwyd 12 mlynedd yn ôl. Ganwyd Charles, yr hynaf o bump o blant fferm Y Fynachlog Fawr, sef Ystrad Fflur. Yn y cyfieithiad ceir ychwanegiad i’w hanes wedi i adeiladau’r fferm, yn cynnwys yr hen dŷ sydd ymron mor hen â’r abaty ei hun, ddod yn rhan o fenter newydd. Mae’r safle hanesydol bellach yn nwylo Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, sy’n golygu y caiff y fangre sanctaidd yn awr ei diogelu, ac yn wir ei datblygu i adlewyrchu nid yn unig dreftadaeth grefyddol yr abaty, ond hefyd y modd y gwnaeth y Brodyr Sistersiaidd osod sylfeini amaethyddol yn fro. Tueddir i feddwl am y mynachlogydd fel canolfannau crefyddol yn unig. Ond na, cynhaliaeth Ystrad Fflur a mynachlogydd tebyg oedd amaethyddiaeth. Soniais o’r blaen am hen enwau ffermydd y fynachlog sydd wedi goroesi yma. Gerllaw cawn Dôl-ebolion, lle cedwid yr ebolion, wrth gwrs. I lawr i gyfeiriad safle’r abaty gwreiddiol ar dir fferm Hen Fynachlog ceir Dôl yr Ychain, enw arall sy’n cyfleu ei swyddogaeth i’r mynachod. Yn uwch i fyny ceir Bryn Hope, neu Fryn Hob, sef y fferm foch. Cofiwch am ‘Hob y deri dando’. Yn uwch i fyny wedyn ceir Dôl Beudyau, lle cedwid y gwartheg godro. Nid nepell i ffwrdd ceir Mynachdy. Ond ffermwyr defaid oedd y Brodyr yn bennaf. Y nhw roddodd gychwyn i’r ffeiriau, sef Ffeiriau’r Rhos. Roedd yna bump ohonynt ar un adeg. Fe’u cynhaliwyd yn wreiddiol i fyny ar Rhos Gelligron uwchlaw’r Hen Fynachlog. Yna wedi ail-sefydlu’r fynachlog ar y safle presennol, symudod y ffeiriau i’r gogledd i ros arall, a hynny a roddodd yr enw i’r pentref a dyfodd yno, sef Ffair Rhos. Ac ym mhentref Ffair Rhos ceir o hyd dyddyn o’r enw Llidiart y Ffair. Wedi diddymiad y mynachlogydd, diflannodd yr hen ffeiriau hyn o un i un, gan adael ond un, sef Ffair Gŵyl Y Grog, a gynhelid ar Fedi 25 bob blwyddyn. Cofiaf flynyddoed olaf honno fel ffair geffylau, cyn iddi droi’n ffair wagedd a diflannu, fel y pedair arall, yn y 60au. I’r mynachod mae’r diolch am fodolaeth ffermio defaid yn y cyffiniau hyn. Mae’n siŵr bod yna ddefaid yn cael eu cadw yma gynt. Ond yn sicr, y mynachod a roddodd drefn ar bethau. Y nhw, mae’n debyg, oedd y cyntaf i gyflogi bugeiliaid. Y nhw hefyd oedd y cyntaf i gychwyn yr arfer o nodi defaid. Bu Charles Arch yn bugeilio’r union fynydd-dir y bu’r mynachod arno bron i ugain canrif yn gynharach. Ond, iddo ef a’i frawd a’i chwiorydd a’u ffrindiau, dim ond man chwarae oedd yr hen abaty. Yn nes ymlaen y daeth i werthfawrogi’r olyniaeth â’i clymai wrth amaethyddiaeth y fro o’r unfed-ganrif-ar-ddeg ymlaen. Dros y ddegawd ddiwethaf bu cloddio o’r newydd o gwmpas yr hen safle. Erbyn hyn, dengys canlyniadau’r cloddio hwnnw bod y fynachlog o leiaf ddeg gwaith maint y safle adfeiledig a welir heddiw. Dim ond yn ddiweddar y sylweddolwyd beth oedd maint effaith ffermio’r mynachod ar dirweddau cyfagos ym mhen uchaf Dyffryn Teifi. O ran tir, roedd ar ei anterth, mae’n debyg, ar ddechrau’r 13eg ganrif. Ystyrir y fangre yn un mor bwysig bellach o ran crefydd, amaethyddiaeth a threftadaeth fel iddi gael ei derbyn fel un a gydnabyddir gan Sefydliad Treftadaeth y Byd. Ond i ddychwelyd at Charles Arch a’i brofiad o ffermio a bugeilio ar fangre mor hanesyddol. Trodd hwyl difeddwl plentynod yn werthfawrogiad o gyfraniad aruthrol y mynachod i ddatblygiad amaeth, meddai. ‘Gwelsant am y tro cyntaf yn yr ardal werth tir a chynnyrch a hefyd y ffordd o’i ddatblygu. Ac ar ben hynny, y dull gorau o’i werthu.’ Gynt, meddai, porid yr ucheldir gan ddefaid â’u cnu yn ddiwerth ac o bob lliw dan haul. Ond aeth y mynachod ati i wella ansawdd y praidd, gan anelu at gynhyrchu gwlân gwyn, a rhoi’r gorau yn raddol i fridio defaid a edrychai’n debycach i eifr o ran eu lliw a’u llun. Mae Charles hefyd yn gweld ffeiriau cynnyrch y mynachod ar lethrau Ffair Rhos fel rhagflaenwyr y marchnadoedd ffermwyr sydd mor boblogaidd yn ein trefi bellach. Byddai’r mynachod, meddai, yn tyfu eu grawn eu hunain, a’i drin yn eu melinau eu hunain. Tyfent eu llysiau a’u ffrwythau eu hunain, gan werthu beth bynnag fyddai dros ben. Ac er mor fuddiol yw’r marchnadoedd ffermwyr, mae cynnyrch a ddaw o’r ochr draw i’r ffin yn dal i foddi’r farchnad. Mae’n gofyn yn syml, ‘A ydym wedi colli golwg ar weledigaeth yr hen fynachod o osod bwyd lleol ar werth yn lleol gan osgoi llawer o broblemau ein bywyd modern?’ Cwestiwn da. Cewch wybod llawer mwy pan ddaw hunangofiant Charles allan cyn bo hir.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.