Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

UN o gryfderau mwyaf y gymuned amaethyddol fu’r cyfeillgarwch a fodolai rhwng ffermwyr â’i gilydd. Roedd yna gymdogaeth dda. Roedd yna ymddiried. Tristwch mawr i mi felly fu darllen yn ddiweddar am y cynnydd mewn dwyn stoc, ac ofnau heddluoedd mai troseddwyr sydd o g e f n d i r amaethyddol sy’n gyfrifol am lawer o dorcyfraith yn y cefn gwlad. Yn ôl Rob Taylor, pennaeth Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru mae lle cryf i gredu fod llawer o droseddwyr y gymuned wledig yn bobl sydd eu hunain o gefndir amaethyddol. Gwnaeth ei sylwadau yn dilyn datgeliad o dan Ryddid Gwybodaeth fod cynnydd mawr yn nifer achosion o ddwyn stoc, defaid yn arbennig. Dengys ffigurau swyddogol fod dros 250 o greaduriaid wedi eu dwyn yn ardal Heddlu Gogledd Cymru rhwng 2012 a 2015. Yn ôl Rob Taylor dengys y cynnydd a’r dulliau o ladrata fod yna drefniadaeth fanwl y tu ôl i’r lladrata, trefniadaeth sy’n adlewyrchu gwybodaeth fanwl am ffermio. Dyma ffordd boleit o ddatgan fod yna ofnau bellach fod yna, ymhlith lladron stoc, bobl sydd naill ai’n ffermwyr eu hunain neu sydd â phrofiad o ffermio. Fedrwch chi ddim dwyn stoc ar hap, medd Mr Taylor. Mae gweithred o ddwyn dwsinau o ddefaid yn gofyn am y gallu i grynhoi defaid ynghyd heb son am y dulliau o’u cludo oddi yno ac yna eu gwerthu. Mae hyn oll, meddai, yn awgrymu’n gryf fod yna, ymhlith y lladron, bobl sydd naill ai’n ffermwyr eu hunain neu’n gynffermwyr. Mae hyn i mi yn dristwch o’r mwyaf. Bu ffermwyr y fro hon yn amlwg am eu cyfeillgarwch a’u cydweithredu. Mae hyn yn wir am bob cymuned amaethyddol. Er i’r arferiad o gyfnewid llafur hen ddiflannu, mae ysbryd yr arferiad yn dal yn fyw gyda phawb yn parhau i helpu ei gilydd. Ond mae pethe wedi newid yn ddirfawr yn y cefn gwlad. Syndod a thristwch oedd canfod drwy Rob Taylor am 30 o ddefaid wedi eu dwyn ger Llanrwst. Yna 40 o ddefaid a 45 o ŵyn o Ruthun. Yna 40 o ddefaid oddi ar fferm yn y Treuddyn. Ym mis Tachwedd y llynedd lladratwyr cyfanswm o tua 100 o anifeiliaid o ardaloedd Y Bala, Rhuallt, Pandy Tudur a Betws y Coed. Ym mis Chwefror eleni lladratwyd 15 o ŵyn oddi ar fferm yn Sir y Fflint. Canfuwyd un gyda’i glustiau wedi eu torri i ffwrdd. Fel cam tuag at ganfod y drwgweithredwyr daeth Heddlu Gogledd Cymru’r cyntaf i gyhoeddi cyfarwyddiadur nodau clustiau. Yr hanesyn mwyaf diddorol fu hwnnw am Heddlu Dyfed Powys yn profi euogrwydd lleidr defaid drwy ddefnyddio DNA. Rydym yn hen gyfarwydd erbyn hyn â’r defnydd o DNA i ddal llofruddion a threiswyr. Ond dyma’r tro cyntaf erioed yng Nghymru i leidr defaid gael ei brofi’n euog ar sail tystiolaeth DNA. Collodd ffermwr o ardal Llandybie 50 o’i ddefaid. Ceisiwyd gwerthu 18 ohonynt ym Marchnad Llanybydder. Sylwyd fod eu nodau clustiau wedi ei difetha. Amheuwyd ffermwr o’r Garnant o’r lladrad ond oedodd Heddlu Dyfed Powys nes i’r defaid wyna. Yna defnyddiwyd prawf DNA a chanfuwyd fod yr ŵyn wedi eu tadogi gan yr un hwrdd a oedd ar dir y ffermwr a gollodd ei ddefaid. Yn Llys y Goron Abertawe gorchymynnwyd i’r lleidr dalu iawndal o £1,000 a’i ddedfrydu i wyth mis o garchar, y ddedfryd wedi ei gohirio am ddwy flynedd. Canmolodd y Barnwr, yr Ustus Walters y gymuned amaethyddol leol am gyd-dynnu, hynny’n arwain at ddal y troseddwr. Cyfeiriodd at y dolur achosodd y weithred i’r gymuned leol. Roedd y troseddwr, meddai, wedi lladrata oddi ar gymydog a byddai amser hir yn mynd heibio cyn fedrai’r cymdogion faddau i’r lleidr. Daeth DNA i amlygrwydd yn y byd troseddol ym 1986 yn dilyn llofruddio dwy ferch ifanc dair blynedd yn gynharach yn Swydd Gaerlŷr. Sgriniwyd dynion ifanc lleol er mwyn canfod y llofrudd ond llwyddodd gŵr o’r enw Colin Pitchfork i gadw’i draed yn rhydd pan berswadiodd lanc arall i gymryd ei le wrth ddarparu olion DNA. Gwelwyd drwy’r twyll ac mae Pitchfork yn dal dan glo. Dengys yr achos yn Llys y Goron Abertawe fod gan yr heddlu bellach arf newydd ac ychwanegol ar gyfer eu brwydr gynyddol a pharhaol yn erbyn lladron stoc. Ond ni all DNA nac unrhyw ddull datrysol arall fyth ddileu’r staen a achosir pan gaiff ffermwyr eu bradychu gan gymydog

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.