Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

HI_RES_Page_06_Image_0002YN ddiweddar darlledwyd ar S4C un o’r dogfennau mwyaf ingol a welais ers tro. Craidd yr hanes oedd hunanladdiad ffermwr o Lanfechell, Sir Fôn ddwy flynedd yn ôl. Lluniwyd y ddogfen, ‘Cofio Dad: Siarad am Hynna’ gan Stephen Hughes, un o dri mab y ffermwr, Elfed, 56 oed. Mae Stephen yn ohebydd ac yn gynhyrchydd gyda’r BBC. Fe wnaeth y ddogfen gadarnhau’r hyn y bûm yn ei bregethu ers tro sef bod y newid mawr sy’n digwydd, ac sydd eisoes wedi digwydd yn y cefn gwlad, yn medru effeithio’n ddifrifol ar fywyd ac ar feddyliau’r gymuned wledig. Ar hyd y canrifoedd darluniwyd yr amaethwr fel gŵr hapus a bodlon ei fyd. Dyna’r darlun a greai’r hen feirdd Groegaidd gynt. Dyna hefyd ddarlun beirdd mwy diweddar. Cymerwch awdl hyfryd Geraint Bowen a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar ym 1946. Y thema oedd, ‘A heuo faes, gwyn ei fyd’. Dewch ymlaen ugain mlynedd i Aberafan ac awdl fawr Dic Jones i’r ‘Cynhaeaf’, a deng mlynedd yn ddiweddarach ei awdl odidog i’r ‘Gwanwyn’ Nid yw’r naill na’r llall yn cyffwrdd â’r ochr dywyll. Doedd y pwysau ar ffermwyr ddim mor ddifrifol bryd hynny, wrth gwrs. Cymerodd awdl ingol Ceri Wyn Jones, ‘Gwaddol’ yn Y Bala ym 1997 cyn i ni gael y darlun cyfoes go iawn. Mae’r awdl yn agor gydag arwerthiant ffarm. Yna clywir sŵn ergyd gwn. Medrwch ddychmygu’r arwyddocâd. Pan gynhaliwyd ymgyrch fyd-eang ‘Live Aid’ ym 1985 codwyd $150 miliwn tuag at y newynog yn y Trydydd Byd. Bob Dylan wnaeth ddweud ar y pryd, ‘Gobeithio yr aiff rhan o’r arian at ffermwyr a gollodd eu heiddo oherwydd dyledion i’r banc.’ Do, sylweddolodd Bob bod yna angen cymorth llawer yn nes adref. Arweiniodd hyn at sefydlu ‘Farm Aid’ gan dri chawr o’r byd canu sef Willie Nelson, Neil Young a John Mellencamp. Codwyd $9 miliwn yn y flwyddyn gyntaf. Mae’n werth dyfynnu rhan o gân a gyfansoddwyd ar y cyd gan Bob Dylan a Willie Nelson ar gyfer lansio’r ymgyrch, sef ‘Heartland’.

There’s a home place under fire tonight in the heartland
And the bankers are taking my home and my land from me;
There’s a big aching hole in my chest now where my heart was
And a hole in the sky where God used to be.

Dylwn nodi nad problemau ariannol a arweiniodd at hunanladdiad Elfed Hughes. Ond cyfeiriwyd mewn erthygl papur newydd a roddai sylw i’r rhaglen at ddigwyddiad a allai fod wedi rhoi cychwyn i’r cyfan sef canfod dieithriaid o gwmpas y fferm. Hyn, o bosib, oedd yr hedyn. Gall y digwyddiad mwyaf distabl sbarduno iselder. A’r hyn a grybwyllwyd fwy nag unwaith ar y rhaglen oedd unigrwydd bywyd ffermwr. Dylid edmygu Stephen Hughes am ei ddewrder wrth ddod â hunanladdiad ei dad i’r amlwg. Mae iselder a hunanladdiad yn bynciau tabŵ. Does neb am son amdanynt. Ond yn sicr, nid cydddigwyddiad yw’r ffaith fod yna deirgwaith mwy o ffermwyr yn cymryd y cam ofnadwy o ladd eu hunain nag sydd yna o bobl o unrhyw alwedigaeth arall. Yn wir, tybir fod un o bob dau o’r boblogaeth wedi dioddef o iselder rywbryd neu’i gilydd. Profais yr aflwydd fy hun yn ddiweddar. Mor ddifrifol yw’r broblem ymhlith y gymuned amaethyddol fel i fudiad ‘Farm Crisis Network’ gael ei sefydlu. Nod y mudiad hwn yw bod yn gefn ar unrhyw adeg i rai o’r diwydiant sy’n teimlo’n isel eu hysbryd. Yn anffodus mae’r hen ddelwedd o’r ffermwr bodlon a hapus heb unrhyw ofid yn y byd yn parhau. Ond mae yna fwy o bwysau ar ffermwyr y dyddiau hyn nag a fu erioed. Yn aml iawn bydd ffermwr yn dioddef problemau heb iddo fedru rhannu ei ofid. Mewn rhai achosion, gallant fod yn broblemau ariannol. Mewn eraill gallant fod yn effaith pwysau ychwanegol mewn gwaith, yn cynnwys yr holl waith papur sy’n gymaint bwrn erbyn hyn. Rhwng y newidiadau dybryd a ddigwyddodd yng nghefn gwlad dros y chwarter canrif ddiwethaf ac ansicrwydd goblygiadau Brexit mae’r ffermwr dan fwy o bwysau nag erioed. Sefydlwyd ‘Farm Aid’ fel ymateb i dranc y Freuddwyd Americanaidd. Yn anffodus trodd breuddwyd aml i ffermwr yma yng Nghymru hefyd yn hunllef. A’r tristwch yw bod dioddefwyr yn teimlo’n gwbl unig a diymadferth pan gyfyd anawsterau. Gobeithio y bydd dewrder Stephen Hughes wrth ‘Gofio Dad’ yn rhyw fath o gymorth a chysur ac y bydd mwy ohonom yn fodlon ‘Siarad am Hynna.’

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.