Y Byd o Ben y Bannau

gan Lyn Ebenezer

PAN benodwyd Gweinidog Amaeth nad oedd yn credu mewn bwyta cig i swydd Gweinidog Amaeth Cymru ym 1999 cafwyd gwrthwynebiad cryf gan ffermwyr Cymru. Ond mae’n amlwg na ddysgwyd y wers. Mae llefarydd y wrthblaid ar yr amgylchedd, bwydydd a materion gwledig yn San Steffan yn Figan. Un o benderfyniadau cyntaf arweinydd newydd y Blaid Lafur fu penodi Kerry McCarthy, AS Dwyrain Bryste i’r swydd. Yn y gorffennol mae hi wedi disgrifio ffermwyr fel pobol sy’n achosi dioddefaint i greaduriaid. Disgrifiodd fwytawyr cig a chynnyrch llaeth fel baich ar y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Prif lofruddwyr pobol, meddai, yw cynnyrch llaeth sy’n llawn cholesterol a braster dwys sy’n gorlwytho’r prif wythiennau gan arwain at strôcs, problemau i’r galon, cancr, clefyd y siwgr a gordewdra gan orlwytho’r gwasanaeth iechyd â’r gost o hyrwyddo triniaethau a meddygaeth. Mae’r penodiad yn un naturiol i Jeremy Corbyn ei wneud, wrth gwrs, gan ei fod ef ei hun yn llysfwytäwr. Mae Ms McCarthy, ar y llaw arall, yn mynd lawer ymhellach gan nad yw chwaith yn gwisgo unrhyw ddillad a wneir o wlân neu o ledr. Mae hi hefyd yn Gadeirydd y Cynghrair Gwrth Sbort Creulon gan wrthwynebu’n hallt saethu a difa moch daear. Cyhuddodd y diwydiant llaeth ac wyau o achosi dioddefaint anferth i fwy na miliwn o greaduriaid yn flynyddol yn y DU. Cyhuddodd ffermwyr yn ogystal o achosi newyn byd-eang drwy ddefnyddio’u cnydau ar gyfer bwydo creaduriaid yn hytrach na phobol. Yn amlwg nid yw’n sylweddoli fod y diwydiant bwyd a ffermio yn cyflogi dros 3.8 miliwn o weithwyr gan gyfrannu bron £10 biliwn i’r economi rhwng 2004 a 2014. Mae’r penodiad gwirion diweddaraf hwn yn dangos eto, petai raid, mor bell yw rhai gwleidyddion yn feddyliol oddi wrth y gwir gefn gwlad. Iddynt hwy, rhywbeth sydd ar gael oddi ar gownteri archfarchnadoedd yw bwydydd cig a llaeth. A does dim gwahaniaeth ble mae tarddiad y bwydydd hynny, boed Dde America neu Ddyffryn Tywi. Iddynt hwy, lle ar gyfer hamddena yw’r cefn gwlad, beth bynnag. Does yna ddim Gweinidog Amaeth bellach. Na, clymir bwydydd gyda’r amgylchedd a materion gwledig. Mae’r cefn gwlad amaethyddol yn rhywbeth sy’n perthyn i oes yr arth a’r blaidd i wleidyddion. Dyna pam nad yw diogelwch stoc a pheiriannau amaethyddol yn bwysig. Mae torcyfraith yn y cefn gwlad bellach yn costio £800 miliwn i gymunedau gwledig y DU. Yn wir, mae torcyfraith mor gyffredin yn y cefn gwlad bellach fel bod 27 y cant o ddioddefwyr lladron ac ati’n dewis peidio â chysylltu â’r heddlu na’u cwmnïau yswiriant i adrodd am y colledion hynny. Mae dwyn defaid bellach yn epidemig, fel mae dwyn cwods a pheiriannau amaethyddol costus eraill. A gwaethygu a wna’r sefyllfa yn wyneb mwy o doriadau i blismona’r cefn gwlad. Yno disgwylir cwtogiadau pellach o rhwng 20 a 40 y cant mewn nifer swyddogion plismona. Heddiw mae canran pobol sy’n poeni am dorcyfraith yng nghefn gwlad wedi codi 32 y cant o’r hyn oedd bum mlynedd yn ôl. Yn Swydd Sussex cychwynnwyd ar arbrawf diddorol gyda marchogion ceffylau yn gwirfoddoli i weithredu fel llygaid a chlustiau i’r heddlu. Ond pam ddylai hyn ddigwydd? Onid prif ddyletswydd ceidwaid cymuned wâr yw diogelu ei thrigolion? Ond na, ofnaf mai trigolion eilradd bellach yw trigolion y cefn gwlad. Nid ydym ond tipyn o niwsans i blismyn ac i wleidyddion fel ei gilydd. Gallaf ddychmygu plant heddiw yn gofyn i’w rhieni, ‘Pam mae angen gwartheg, mam? Mae digon o laeth yn Tesco.’ Pam mae angen eidionnau dad? Mae digon o gig ym Morrisons.’ A thristwch y sefyllfa yw nad oes yna ateb call iddynt.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.