Y Byd o Ben y Bannau gan Lyn Ebenezer

DrOS y deng mlynedd ar hugain diwethaf bum yn gyfrifol am gyhoeddi i fyny at bedwar ugain o lyfrau. Bum wrthi naill ai’n cyfansoddi fy ngwaith fy hun neu’n helpu eraill drwy olygu neu gofnodi. Ond o blith y cyfan, prin i mi fod yn rhan o unrhyw gyfrol mor ddiddorol â Llwybr Llaethog Llundain gan Megan hayes o aberaeron. Prin iawn yw’r llenyddiaeth a gyhoeddwyd ar y bennod honno yn hanes y Cymry alltud a heidiodd i Lundain i ymgymryd â’r fasnach laeth. Mae hynny’n syndod gan mai dyma un o’r penodau mwyaf diddorol yn hanes diweddar Cymru. Mae Megan ei hun yn ferch i rieni o laethwyr a adawodd dde orllewin Sir aberteifi ym 1928. Fel eraill a aeth o’u blaen ac ar eu hôl, mynd er mwyn bywyd gwell wnaeth y pâr ifanc. a diddorol yw cael gan Megan y dehongliad nad menter oedd hyn. ‘O fynd i’r busnes llaeth,’ meddai ‘doedd dim cwestiwn o fethu.’ Mae’r hanes yma’n gyfan o ddyddiau’r porthmyn at y ceidwaid gwartheg ac ymlaen at olynwyr naturiol y rheiny, pobl y ‘wâc laeth’. Mae’r elfen Gymreig yn rhedeg fel gwythïen drwy’r cyfan. Cardis, gan fwyaf, fyddai’r darpar laethwyr. a Chymry fyddai’r asiantwyr a fyddai yng ngofal pwrcasiad neu werthiant y busnes. Fe aeth y Cardis yno gyda’u harferion gyda nhw, yn grefyddol, yn ddiwylliannol ac yn adloniadol. Y capel oedd cadarnle’r bywyd alltud. ar anterth y mudo mawr dengys ystadegau fod yna 24 capel Calfinaidd yn y ddinas, 13 capel annibynnol, chwe chapel Wesleaidd, dau gapel Bedyddwyr, chwe Eglwys anglicanaidd a dwy eglwys ryngwladol, y cyfan yn addoldai Cymraeg. Er bod llwyddiant yn anochel, golygai hynny waith caled. Gweithient ddeuddeg awr y dydd yn eu siopau bach ac ar eu rownds. Diddorol yw sylw Megan mai olynwyr naturiol y Cardis yn y siopau bach a’r llaethdai cornel heddiw yw’r Pacistaniaid, rheiny hefyd yn barod i weithio’n galed bob awr o’r dydd a’r nos. ac mae’r rhod wedi troi yn hanes llawer o’r addoldai. heddiw dim ond chwe chapel Calfinaidd sydd ar ôl, pedwar annibynnol, dwy Eglwys anglicanaidd a dim un capel Wesleaidd. O blith y rhai a gaeodd mai’r tabercacl yn perthyn i’r Frawdoliaeth Gristnogol Ethiopaidd, Willsden Green yn Deml y Gwir Fwda, a chapel Falmouth road yn gartref i’r Eglwys Nigeraidd. Ceir hanesion rhai o’r gŵyr busnes o Gardis a aeth ymlaen i fod yn bileri’r bywyd Llundeinig ar ôl cychwyn mewn busnesau llaeth. Bu Syr David James yn berchen ar 13 o sinemâu. Bu alban Davies yn aelod o Gyngor Walthamstow. Bu Evan Evans yn Faer St Pancras ddwywaith. Bu Syr David Davies yn aelod Seneddol. ac fe wnaeth William Price, un o’r ychydig oedd ddim yn Gardi, sefydlu United Dairies. Diddorol hefyd yw sylweddoli mai ‘adref’ oedd Sir aberteifi. a’r arferiad oedd i unrhyw laethwr a wnâi farw yn ei waith gael ei gludo adre i’w gladdu. Câi’r arch ei osod yng nghaban y gard ar y trên olaf o Blatfform 1 yng Ngorsaf Paddington. Gadwai’r trên yn nodau emynau’r galarwyr, ‘Mae nghyfeillion adre’n myned’ neu ‘O Fryniau Caersalem.’ Mae’r gyfrol yn doreithiog o ffotograffau hynod ddiddorol. Ceir hefyd nifer o atodiadau sy’n berthnasol i werthiannau llaethdai. a mwy diddorol fyth yw’r cerddi niferus sy’n disgrifio’r porthmyn. Fy unig waith i parthed y gyfrol fu cofnodi a chymoni. Gwaith Megan yw’r cyfan wedi iddi fod yn chwilota drwy lyfrau a dogfennau ynghyd â sgwrsio a dwsinau o ddisgynyddion llaethwyr. Mae un sylw yn ddigon i’ch syfrdanu. Mae Megan yn honni – a phrin y gellir ei hamau – nad oes yna ‘r un teulu cynhennid yn Sir aberteifi heb o leiaf un perthynas a fu’n ymwneud â’r fasnach laeth yn Llundain. Ydi, mae Llwybr Llaethog Llundain yn codi’r llenni ar hanes unigryw yn hanes y Cardis a’r Cymry alltud. Dim ond cipolwg ar ychydig o olygfeydd a gawsom yn y gorffennol. Diolch i Megan hayes cawn weld y ddrama gyfan.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.