Y tywydd trwy lens y camera

CORNEL CLECS

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

HIRES_Page_04_Image_0001RAI misoedd yn ôl, ar fore digon cyffredin a digyffro yn swyddfa Cornel Clecs, ddigwyddodd rhywbeth reit ryfeddol. O fore tawel, dechreuodd y gwynt ruo ac am gyfnod o gwpwl o funudau, roedd rhyw deimlad bod y byd yn dod i ben. Aeth y tywydd yn reit grac gan adael llwybr o ddinistr ar ei ôl. Ac yna, mor sydyn a newidiodd y tywydd yn arw, aeth popeth yn dawel eto. Cliriodd yr awyr, dychwelodd yr awyr las a distawodd y gwynt a’r glaw. Anodd credu beth oedd newydd ddigwydd. Wrth gwrs, beth bynnag oedd yn gyfrifol am y newid mwyaf dramatig mewn tywydd, mi gafodd sylw cenedlaethol yn y cyfryngau, fel sy’n digwydd pan fyddwn yn cael tywydd eithafol. Un sydd wedi cofnodi patrymau’r tywydd trwy gyfres o luniau yw’r ffotograffydd Iestyn Hughes a aeth ati i chwilio am yw’r ateb i’r cwestiwn a yw effaith cynhesu byd‐eang i’w gweld yng Nghymru? Felly wrth ganfod yr ateb, mi aeth y ffotograffydd i bori drwy lu o archifau am dystiolaeth o effaith y tywydd dros y canrifoedd. Ac felly dyma ddechrau’r gyfrol Tywydd Mawr a gyhoeddwyd ychydig fisoedd yn ôl. Mae’n dangos lluniau o fynyddoedd yr Alpau a rhewlif yn crebachu yng Nghanada. Ond golygfeydd dramatig o Gymru benbaladr a welir yma’n bennaf ‐ eira 1947 ac 1978, sychder haf 1976 a llifogydd 2004, yn ogystal â stormydd 2013/14 ar hyd arfordir gorllewin Cymru. Mae’n gyfrol gynhwysfawr sy’n cynnwys ymhell dros gant o ffotograffau a darluniau o dywydd eithafol yng Nghymru. Ynddi geir trysorfa o wybodaeth, atgofion, darluniau, llên gwerin a gwyddoniaeth am y tywydd a’r hinsawdd. Ond beth ysgogodd Iestyn Hughes i gyhoeddi’r gyfrol Tywydd Mawr? Mae’n egluro ei fod wedi cael ei “ysgogi i baratoi’r gyfrol fach hon yn dilyn stormydd 2013/14. Roeddwn wedi amau bod rhywbeth mawr ar droed o fis Hydref ymlaen, ac fe fues i’n weddol ddiwyd wedyn yn cofnodi effaith y tonnau mawr a’r llifogydd ar hyd yr arfordir o gwmpas Aberystwyth gyda fy nghamera. “Daw’r lluniau sydd yn y gyfrol o wahanol ffynonellau, yn eu plith casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n cynnwys y ffotograff cyntaf erioed o ddyn eira a dynnwyd tua 1854, ac un o bobl yn sglefrio ar afon Teifi ym 1891. Yn ogystal â ffotograffau, cynhwysir paentiadau hefyd, megis rhai gan Breugel, Aneurin Jones a Kyffin Williams,” ychwanega Mr Hughes. Dr HyweI Griffiths, darlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth sy’n gyfrifol am ysgrifennu cyflwyniad i’r gyfrol ac mae’n dweud “I ni’r Cymry, fel gweddill pobl ynysoedd Prydain, mae’r tywydd yn rhan fawr iawn o’n bywydau. Pan ddaw hi’n dywydd mawr, mae ein hymatebion cymdeithasol a diwylliannol yn uniongyrchol, greddfol a chreadigol dros ben.” Felly, tywydd y gorffennol, am ganrifoedd wedi ysbrydoli cyfrol werthfawr sy’n gofnod pwysig o sut mae ein hinsawdd yn newid. Ond beth am 2017? Tybed a gawn ni dywydd ffafriol dros gyfnod wyna, tywydd caredig i bawb wneud y cynhaeaf yn hwylus a digyffro a hydref mwyn er mwyn torri’r gaeaf yn dymor byrrach? Beth bynnag sydd ar droed, all neb ohonom ei ddylanwadu, dim ond cymryd y tywydd fel y daw, y da a’r drwg!

Tywydd Mawr gan Iestyn Hughes, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, £14.99

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.